en
Книги
Angharad Tomos,Tamsin Cathan Davies

Merched Peryglus

Casgliad o hanesion ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith ar adeg 60 mlwyddiant protest gyntaf y Gymdeithas. Dyma hanesion merched sydd wedi ymgyrchu mewn pob math o ffyrdd gwahanol dros y blynyddoedd.Mae'n cynnwys atgofion 30 o ferched yn eu geiriau eu hunain, gyda ffotograffau a dynnwyd ar y pryd ac adroddiadau o papurau newydd o'r cyfnod.Dechreua'r hanesion yn y 1960au, yng nghyfarfod busnes cyntaf y Gymdeithas pan ddewiswyd ei henw. Rhannir y llyfr yn dri chyfnod. Mae'r adran ar y 1960au a'r 1970au yn cynnwys atgofion o'r ymgyrchoedd cynharaf, gan gynnwys ceisio dogfennau swyddogol yn Gymraeg ac arwyddion ffyrdd Cymraeg, ac yn symud ymlaen i ymgyrchoedd yn erbyn ail dai a galwadau am sianel deledu Gymraeg.Cynhwysa'r adran ar y 1980au a'r 1990au ymgyrchoedd am ddeddf iaith ac addysg Gymraeg. Wrth inni symud i'r unfed ganrif ar hugain, gwelir hanesion protestiadau i sicrhau dyfodol y Gymraeg yn yr oes ddigidol, cael statws swyddogol iddi ac i atal y dirywiad mewn cymunedau Cymraeg.Ceir straeon am anufudd-dod sifil a chyfnodau yn y carchar, ond hefyd gwaith lobio, trefnu gigs, teithiau cerdded, crefftio a chynghreirio ag ieithoedd lleiafriedig ar draws y byd.
216 печатни страници
Притежател на авторското право
Bookwire
Оригинална публикация
2023
Година на публикуване
2023
Издател
Honno Press
Вече чели ли сте я? Какво мислите за нея?
👍👎
fb2epub
Плъзнете и пуснете файловете си (не повече от 5 наведнъж)